MARW HENAFGWR.
Ddydd Llun, Awst 19eg, bu farw yr henafgwr hysbys Mr David Williams, Abererch Road, ac efe yn 82 mlwydd oed.Hen forwr profiadol oedd yr ymadawedig, ac wedi treulio cyfnod maith o'i fywyd i fordwyo'r weilgi lydan i'r porthladdoedd pellaf, a gwych fyddai ei glywed yn dadrys helyntoedd bywyd y morwr yn y dyddiau dedwydd hyny.
Yr oedd ganddo ddawn arbenig i ddweyd ystori gyda graen, ac yr oedd ei natur yn llawn gwreiddioldeb. Cymerodd ei gladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, dydd Iau yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Edwards, B. A., Ficer.
Cydymdeimlwn a'i deulu yn eu trallod.