WEDI EI GLWYFO.

Derbyniodd Mr a Mrs Wiiliam Hughes, Carnarvon Road, newydd anymunol iawn o faes y frwydr yn hysbysu fod eu mab, Private Hughie Hughes, wedi ei glwyfo yn drwm yn ei ddwy fraich yn Ffrainc, a'i fod wedi cael ei symud drosodd i ysbyty yn Lloegr.

Ychydig iawn fu cyfnod ei ddisgybliaeth filwrol yn y wlad hon na symudwyd ef yn ddiymdroi i ganol enbydrwydd y gyflafan, a chlwyfwyd ef mewn ysgarmes ffyrnig yno.

Eiddunwn iddo, yn ei boen a'i loes, bob nerth sy'n angenrheidiol i ddioddef y driniaeth ar lwybr ymwared, a bydded i hyny fod yn fuan yw ein dymuniad.

Yr Udgorn 31/01/1917