YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc, Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd), Mr Lloyd G. Jones, Dr Gwenogfryn Evans, Dr S. W. Griffiths, Mri W H Lloyd, Rupert Ellis, J Hughes Parry, W W Griffiths a Dr R Jones Evans.LLADRATA PWRS.
Cyhuddwyd Annie Augusta Owen, New Street, Pwllheli, o ladrata pwrs yn cvnwys 6s 6c o arian yn Llanbedrog, y dydd Iau blaenorol.Tystiodd Mrs Laura Jones, Selar Terrace, Llanbedrog, i'r gyhuddedig ddod i'w thŷ yng ngwmpeini ei merch ac ar ôl iddi ymadael gwelwyd eu bod wedi colli y pwrs a'r arian.
Tystiodd yr Heddwas Owen i'r gyhuddedig gyfaddef y trosedd ar unwaith.