MARWOLAETH.

Foreu Gwener, wedi cystudd maith a blin, bu farw Mrs. Mary Owen, priod Mr. William Owen, Carnarvon Road, a hi yn 46 mlwydd oed.

Cyfansoddiad gwanaidd a thra bregus fu eiddo'r ymadawedig ar y goreu. Bu'n orweddiog am yn agos i ddwy flynedd, ond dioddefodd eithaf ei chystudd yn dawel a dirwgnach. Gwraig dirion, addfwyn, a chymwynasgar ydoedd, ac un a berchid yn fawr gan ei chymdogion.

Cymerodd ei chladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, heddyw (ddydd Mawrth) yn mynwent Denio.

Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, Elms. Cydymdeimlwn a'i phriod ac u'r plant oll yn eu galar dwfn o golli un mor hoff ac anwyl.

Yr Udgorn 16/10/1918