DIHANGFA GYFYNG I FACHGEN RHAG BODDI.
Prydnawn Sadwrn diweddaf bu agos i fachgen Mr a Mrs Evan Williams, Penrhydlyniog, a boddi yn y bont. Ymddengys ei fod yn chwareu ar bibellau y garthffos, a syrthiodd i'r dŵr.Aeth Mr Robert Davies, 12, Abererch Road, er yn hen ac yn wael ei iechyd, i geisio ei achub, a llwyddodd ef a Mr Owen Thomas, Llys Peris, Lleyn Street, i'w waredu.
Haedda Mr Davies glod arbenig am ei ddewrder.