MARWOLAETH.

Ddydd Iau, ar ôl cystudd maith, bu farw Mrs. Sarah Roberts, priod Mr. Edward Roberts, gwehydd, Abererch Road, a hi yn 72 mlwydd oed. Yr oedd yn wraig dawel, garedig, a chymwynasgar.

Claddwyd hi ddydd Llun yn mynwent Abererch. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. G. Sorton Davies, Caerdydd, ac yn y fynwent gan y Parch. D. Jones, B.A., y ficer.

Gedy ar ei hol briod a phlant.

Cydymdeimlwn a'r teulu trallodedig yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 26/07/1916