MARWOLAETH.
Ddydd Mawrth. wedi hir waeledd, bu farw Miss E. Williams, 18, Abererch Road. Cafodd Miss Williams gystudd maith, ond dioddefodd yn dawel. Haeddai Miss Jones. Abererch Road, barch am ei gofal a'i thynherwch mawr yn gweini arni.Yr oedd yn aelod ffyddlawn o eglwys Penmount. Ddydd Gwener hebryngwyd ei gweddillion i orffwys yn mynwent Llanengan.
Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch T. Williams, Elms, a'r Parch O. Jones, Bethesda, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch T. Williams a'r Ficer.