Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri. J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, Dr. S. W. Griffith, Dr. Gwenogfryn Evans, Mri. W. Thomas, G. Cornelius Roberts, J. Hughes Parry.

MEDDWDOD.

Cyhuddwyd Mrs Dorkins, 29, Abererch Road, o fod yn feddw ar y dyddiad a'r achlysur y cyfeiriwyd ato yn yr achos o'r blaen.

Tystiai y Rhingyll Lloyd fod y gyhuddedig wedi cyfaddef wrtho ef iddi gael gwerth chwech o rum a pheint o gwrw yn y Black Lion tua dau o'r gloch. Yfodd y rum yn y tŷ, ac yfodd y cwrw ar ôl mynd adref.

Gwadai Mrs Dorkins y cyhuddiad, dywedai ei bod yn hollol sobr pan aeth i ymofyn peint o gwrw i'r Black Lion ar ôl chwech o'r gloch.

Syrthiodd ar y ffordd adref, a gofynodd i'r tyst Evan Owen ei chynorthwyo i fyned i'w thŷ.

Dirwywyd hi i 7s. 6c.

Yr Udgorn 20/12/1916