MARWOLAETH SYDYN.

Foreu Sul, ar ôl byr gystudd, bu farw Mr William Roberts, priod Mrs Ellin Roberts, Gors, Sand Street, ac efe yn 71 mlwydd oed.

Yr oedd yr ymadawedig yn ŵr tawel a diymhongar iawn, ac yn hollol ddistwr mewn cymdeithas.

Cymer y gladdedigaeth (anghyhoedd) le ddydd Iau nesaf yn mynwent Denio. Gwasanaethir gan y Parch. J. Puleston Jones, M A.

Cydymdeimlir a'i briod a'r plant yn y brofedigaeth chwerw a'u cyfarfu mor sydyn.

Yr Udgorn 03/01/1917