SWYDDOG IEUANC GOBEITHIOL.

Y mae gyrfa bywyd Lifftenant-Colonel Aneurin Rhydderch, mab y Parch. J. Rhydderch, St. Peter's Terrace, yn addysgol a milwrol, yn darllen fel rhamant ddyddorol. Trwy fedr, diwylliant, a gwroldeb, cododd o fod yn Private i fod yn Lifft-Col ac yn awr y mae wedi cael ei ddyrchafu i ofalu am ysgol i hyfforddi swyddogion milwrol.

Treuliodd flwyddyn a haner yn enbydrwydd y ffosydd.

Bu ei yrfa yn un flodeuog ryfeddol pan yn y Brifysgol yn Aberystwyth, ac enillodd y radd o B. A. yno. Nid yw yn awr ond 25 mlwydd oed, ac y mae ei ddyfodol yn llawn o obeithion disglaer.

Yr Udgorn 30/05/1917