MARWOLAETH.

Ddydd Mawrth, Medi 18fed, bu farw y gŵr ieuanc adnabyddus Mr Rowland Jones, Painter (mab ieuengaf y diweddar Mr John Thomas Jones, a Mrs Jones, Lleyn Street), a phriod Mrs Laura Jones, Church Street, ac efe yn 35 mlwydd oed. Cafodd gystudd maith a blin, ond dioddefodd y cwbl yn dawel ac amyneddgar.

Yr oedd cylch ei adnabyddiaeth yn eang ar gyfrif ei alwedigaeth, a pherchid ef yn fawr gan luaws cyfeillion iddo. Yr oedd o ran ei bersonoliaeth yn gadarn ac unplyg, a meddai ar neillduolion arbenig fel gŵr ieuanc cymdeithasol. Bu yn aelod selog a gweithgar yn eglwys Salem. Gwelir min a chwerwder y brofedigaeth hon, oherwydd ei ymadawiad cynar, yn y ffaith y gedy o'i ôl briod ieuanc a phump o blant bach amddifaid i alaru eu colled ar ôl un mor hoff ac anwyl.

Cymerodd yr angladd le, yr hon oedd anghyhoedd, yn mynwent newydd Denio ddydd Sadwrn. Gwasanaethwyd yn y tŷ a'r fynwent gan y Parch. Thomas Williams, The Elms.

Yr oedd y rhai a ganlyn yn bresenol yn yr angladd :- Y Wraig a'r Plant; Mr a Mrs W. T. Jones, Penlan Street (brawd a chwaer ynghyfraith); Miss Jane Jones, Lleyn Street (chwaer); Mrs Gabriel, Ffestiniog (modryb); Mri J. G. Jones, Salem Crescent, James Griffith, Factory, a D Caradog Evans, Arthog (Swyddogion Eglwys Salem); Evan Davies, Carnarvon Road; David Thomas, Penrhos; Owen Jones, Tremadog; Robert Roberts, Rhuddlan; John Roberts, Factory, a John Jones, 'Refail, Pentreuchaf; Walter Roberts, Chwilog; William Williams, Efailnewydd; Evan Evans, King'shead Street; Robert Owen, North Street, a Henry Day, Cardiff Road.

Yr oedd trefniadau yr angladd o dan ofal Mr Hugh Davies, Helyg, Ala Road.

Dymuna'r teulu ddatgan eu diolch cynesaf i'r rhai hyny ddangosodd garedigrwydd a chydymdeimlad mor bur â hwy yn eu profedigaeth.

Nawdd y nef fyddo drostynt yn eu hunigrwydd a'u poen.

Yr Udgorn 26/09/1917