PROFIAD ENBYD MILWYR CYMREIG.
Dyna fu hanes y Private Tom Hughes o'r 1-6ed Bataliwn RWF., 3 Penmount Terrace, Pwllheli, yr hwn oedd yn gweithio yn ngwaith nwy Pwllheli cyn toriad allan y rhvfel.Dioddefodd galedi mawr yn y Dardanelles gyda'r Fyddin Gymreig. Mae yn awr yn yr ysbyty yn Cairo yn dioddef dan y crydcymalau.
Mewn llythyr a anfonodd i'w briod ych ydig ddyddiau cyn i'r fyddin adael y lle, dywadai fod eu bataliwn wedi cael colledion trymion y dyddiau diweddaf. Pan yr oeddynt yn cael eu rhyddhau o'r ffosydd a phan oeddynt yn cysgu allan yn yr awyr agored daeth ystorm anferth o luwch eira a rhew heibio a daliwyd hwy oll gan y storm.
Bu i lawer farw mewn canlyniad i'r oerfel a'r rhew, a chodwyd cannoedd i fyny mewn sefvllfa anymwybodol ac mewn cyflwr difrifol, traed a dwylaw llawer ohonynt wedi rhewi.
Dywed ei fod ef mewn lle cysurus, yn cael digonedd o ymborth a rhagolygon am Nadolig lawen.