MARWOLAETH.

Boreu Llun, ar ôl gwaeledd maith a blin, bu farw Mr. Richard Roberts, Cabinet Maker, Ala Road, ac efe yn 53 mlwydd oed.

Flynyddoedd lawer yn ôl bu'r ymadawedig yn foreman yn ngweithdy y diweddar Mr. Thomas Roberts, Cabinet Maker, a chyfrifid ef y pryd hwnw yn un o'r crefftwyr cywreiniaf yn y gelf o saer coed. Wedi hyny bu'n gyd-berchenog mewn busnes â Mr. Hugh Griffith, Abererch Road, hyd nes y torodd ei iechyd i lawr. Dioddefodd gystudd caled am flynyddoedd yn dawel ac amyneddgar.

Yr oedd yn ŵr rhinweddol iawn, a hoffid ef yn fawr gan gymdeithas oherwydd lledneisrwydd ei fywyd prydferth. Bu'n aelod diwyd a ffyddlawn yn eglwys Penlan.

Cymer y gladdedigaeth le, yr hon fydd anghyhoedd, ddydd Gwener yn mynwent Denio, pryd y gwasanaethir gan y Parch. J. Rhydderch.

Gedy o'i ôl briod a chwaer yn eu hunigedd a'u hiraeth dwys ar ôl un mor anwyl, â'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf.

Yr Udgorn 23/10/1918