MARWOLAETH.

Yn gynar fore Gwener diweddaf, ac efe yn 82ain mlwydd oed, bu farw Cadben Hugh Pritchard, Sabrina House.

Yr oedd yn un o hen drigolion y dref. Bu yn forwr llwyddianus am amryw flynyddoedd. Wedi hyny sefydlodd fasnach yn y dref, a bu wedi hyny yn drethgasglydd.

Gedy ar ei ôl weddw a merch, a phedwar o feibion, un ohonynt yw Mr. H. Pritchard, cyfreithiwr.

Hebryngwyd ei weddillion i fynwent Denio ddydd Llun -angladd anghyhoedd. Gwasanaethwyd gan y Parch John Hughes, B.A., B D Salem.

Yr undertaker ydoedd Mr William Anthony, Manchester House.

Yr Udgorn 25/02/1914


MARWOLAETH CADBEN PRICHARD.

Ddydd Llun diweddaf bu claddedigaeth y diweddar Cadben Hugh Prichard, Sabrina House. Anghyhoedd ydoedd. Yr oedd yr ymadawedig yn 82 mlwydd oed.

Hanai o hen deulu parchus Pencraig, ac yr oedd iddo frodyr adnabyddus, sef y diweddar Gadben David Prichard a r Cadben Robert Prichard. Ala Road. Bu yn hwylio am flynyddoedd o Borthmadog, a thra yn gwneyd hyny yr ymbriododd â Miss Elizabeth Humphreys. merch y diweddar Gapten Wm. Humphreys "lndependence" (tad R. o Fadog).

Bu Mrs. Prichard farw ac yn fuan wedyn ymneillduodd Cadben Prichard o'r mor, ymsefydlodd fel masnachwr yma ac yn y man ymbriododd drachefn.

Gedy weddw a'r plant a ganlyn - Miss Prichard, Mri. R. W. Prichard; Hugh Prichard, D. C. Prichard a W. J. Prichard. Penodwyd Cadben Prichard yn drethgasglydd a gwnaeth y gwaith mor dda am flynyddoedd fel yr enillodd gymeradwyaeth uchel yr awdurdodau. Yr oedd yn aelod gyda'r M. C., yn Salem, ond Ceidwadwr ydoedd mewn gwleidyddiaeth.

Y noson y bu efe farw y dychwelwyd ei fab, Hugh, yn Gynghorydd Sirol dros y Ward Ddeheuol.

Genedl Gymreig 03/03/1914