MARWOLAETH.

Heddyw (ddydd Mawrth), wedi cystudd maith, ba farw Mr J. P. Williams, Church Place, yn 71 ain mlwydd oed.

Bu'r ymadawedig un adeg yn oruchwyliwr Ariandy'r Metropolitan yn Nefyn, ond trigai yn y dref hon ers blynyddau.
 

Yr Udgorn 28/01/1914


Marwolaeth JP.

Wrth y ddwy lythyren uchod yr adwaenid Mr J. P. Williams. Bryn Seiont, Pwllheli, yr hwn a fu farw bore Llun; yn 71 mlwydd oed.

Yr oedd yn gymeriad tra adnabyddus yn y dref.

Cychwynodd ei yrfa yn nhref Caernarfon, a bu yn rheolvvr ariandy y Pughe Jones a'i gwmni, ym Mhorthmadog, am 12 mlynedd, ac wedi hyny yn Nefyn am 8 mlynedd, Yna symudodd i Bwllheli, lle y bu yn gwasanaethu fel clerc yn swyddfa Mr. O. Robyns Owen, cyfreithiwr.

Cymerai ddyddordeb mawr mewn cerddoriaeth, a efe oedd arweinydd côr yr Eisteddfod Genedlaethol gynhaliwyd ym Mhwllheli yn 1879. Cymerai ddyddordeb mawr yn yr achos cenhadol yn Tarsus, a bu yn arweinydd y gan yno am flynyddoedd. Bu ar un adeg yn cynrychioli Nefyn ar Fwrdd Undeb Pwllheli.

Bu yr angladd dydd Sadwrn - anghyhoedd, y Parch John Hughes. B.A., B.B., yn gwasanaethu. Gedy weddw unig i alaru ar ei ôl.
 

Herald Gymraeg 03/02/1914


ANGLADD MR. J. P. WILLIAMS.

Crybwyllasom am farwolaeth y boneddwr uchod yn ein rhifyn diweddaf. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus iawn yn y dref a'r cyffiniau.

Yn Nghaernarfon y cychwynodd ei yrfa, a bu am ddeuddeng mlynedd yn rheolwr Ariandy y Mri. Pughe Jones a'u Cwmni yn Mhorthmadog. Bu wedi hyny yn rheolwr Ariandy'r Metropolitan yn Nefyn am wyth mlynedd, ac yna symudodd i'r dref hon, lle y bu am flynyddau yn gwasanaethu fel clerc yn swyddfa Mr. O. Robyns Owen, Cyfreithiwr.

Teimlir colled fawr ar ol J.P. fel y'i hadwaenid mewn llawer cylch. Yr oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac efe oedd arweinydd Côr yr Eisteddfod Genedlaethol gynhaliwyd ym Mhwllheli yn 1875. Yr oedd hefyd yn flaenor y gan yn Tarsis.

Ddydd Sadwrn rhoed ef i huno yn mynwent Denio, (angladd anghyhoedd) Gwasanaethwyd gan y Parch John Hughes, B.A., B. D.

Gedy weddw unig i alaru ar ei ôl.

Yr Udgorn 04/02/1914