MEWN HENAINT TEG.
Gofidus genym gofnodi marwolaeth Mrs Catherine Williams, gweddw y diweddar Mr J. P. Williams, Glan Seiont, yr hyn a gywerodd le foreu foreu Gwener, a hi yn 84 mlwydd oed. Yr oedd yn edrych yn eithriadol o dda ei hymddangosiad er hyned oedd, a bu yn gryf o nerth hyd ddyddiau olaf ei chystudd. Gwraig ddoeth a defnyddiol fu mewn cymdeithas, a bu yn ffyddlawn hyd y medrodd i'r moddion yn Salem.Yr oedd ei diweddar briod, fel y gwyr y dref yn dda, yn ddyn poblogaidd iawn mewn cylchoedd o nod ac enwogrwydd, a bu hithau yn swcwr nid bychan iddo i gyflawni ei ddyledswyddau pwysig yn llwyddianus.
Cymerodd ei chladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, heddyw (dydd Mawrth) yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. Thomas Williams, The Elms.
Cydymdeimlir yn ddwfn a'i pherthynasau yn ing y brofedigaeth.