MARW.
Dydd Mercher, bu farw Mr. Richard Jones, 7, King's Head Street, yn ei 79 mlwydd oed.Yr oedd yn gymeriad adnabyddus, ac wedi treulio tua 50 mlynedd ar y môr.
Claddwyd yn mynwerrt Denio, dydd Sadwrn, y Parch J. Edwards, v Ficer, yn gwasanaethu.
Cydymdeimlir yn fawr a'i unig fab, Mr. Richard Jones.
Herald Gymraeg 10/02/1914
MARW HEN DRIGIANYDD.
Ddydd Mercher diweddaf, yn 79 mlwydd oed, bu frw Mr Richard Jones, pysgotwr, Kingshead Street, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd. Ddydd Sadwrn hebryngwyd ei weddillon i orffwys yn mynwent Denio.Blaenorid yr angladd gan aelodau o Glwb yr Odyddion, o'r hwn yr oedd yr ymadawedig yn aelod hynaf.
Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwards, ficer, a T. Woodings. ciwrad.
Yr Udgorn 11/02/1914
MARWOLAETH.
Y dydd o'r blaen claddwyd Mr. Richard Jones, King's head street, ac efe yn 78ain mlwydd oed. Morodd am ugeiniau o flynyddoedd o Borthmadog a lleoedd eraill.Gwyddai enwau bron yr oll o hen longau Pwllheli, Nefyn a Phorthmadog, a'u cadbeniaid. Gallai draethu llu o hanesion dyddorol iawn am helyntion llongau a morwyr.