PRIODAS.
Ddydd Mawrth, yng Nghapel Penmount, cymerodd priodas le rhwng Mr. William Williams. Arvonia, Nefyn, a Miss Mary Lloyd Roberts, merch Mr. David Roberts, 19, Kingshead St.Gwasanaethai Mr. Richard Williams (brawd y priodfab) fel gwas, a Miss Annie Roberts (chwaer y briodasferch) fel morwyn. Rhoddwyd y briodas-ferch i ffwrdd gan ei brawd. Mr. O. Lloyd Roberts. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Thomas Williams, Elms, a Owen Pritchard, Nefyn.
Ymysg y gwahoddedigion yr oedd Misses Annie Jones, Star Hotel; May Jones, Penrhyndeudraeth; Annie Roberts, Janet Roberts, New St; Miss Laura Roberts, New Street; Miss Ann Roberts, St. Tudwall's Terrace; Miss Catherine Lloyd, Mitre Terrace; Miss Nellie Williams, Catherine Williams, Miss D. Williams, Miss Jones, Nevyn.
Bu'r briodferch yn gwasanaethu am 17 mlynedd yn Siop Pwll Defaid. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a drudfawr.