NEWYDD PRUDD.
Fore Llun derbyniwyd y newydd trist am farw Mr. Samuel Roberts, 25, Kingshead Street, yn yr ysbytty yn Winnipeg, Canada, ac efe ond 23 mlwydd oed. Bu am flynyddau yn gwasanaethu gyda Mr. Tom Owen, Ironmonger, Maes, ac ymfudodd i'r Amerig oddeutu blwyddyn a haner yn ôl.Ni chafodd ond byr gystudd, ac yn ystod yr oriau olaf yr oedd dau o'i gyfeillion gydag ef yn gwylio wrth ei wely angau, sef Mr. John Parry Evans, New Street, a Mr. Owen Roberts, o Benygroes.
Hysbysir ei fod yn fawr ei barch yno, ac yn mynychu'r gwasanaeth cenhadol yn gyson bob Sul, lle y gwasaaaethai gyda'r côr. Cydymdeimlir a'i chwaer, Miss Eliza Ellen Roberts, Gaol Street, ac a Miss Rebecca Clark, Gaol Street, a Miss Kate Roberts, Kingshead Street, ei ddwy fodryb, yn eu profedigaeth anisgwyliadwy.
Claddwyd ef yn mynwent Brookside, dydd Llun, Hydref 5ed. Cymerid gofal o'r angladd gan Gymdeithas y Coedwigwyr, o ba un yr oedd yn aelod.