HIR WASANAETH.
Anaml iawn y ceir fod dyn wedi bod mewn gwasanaeth yn yr un lle ac o dan yr un meistr am nifer fawr o flynyddau, ond y mae Mr. Robert Hughes, Currier, King's Head Street, wedi bod yn ngwasanaeth Mr. Thomas Lloyd, Tanner and Currier, am hanner can' mlynedd er yr 16eg o'r mis hwn - Mawrth.Ar yr 16eg o Fawrth, 1863, y prentisiwyd ef gyntaf, ac felly gwelir fod hanner can' mlynedd wedi dirwyn i ben. Sicr genym fod hyn yn dweyd yn dda am Mr. Lloyd fel meistr ac am Mr. Robert Hughes fel gwas, gan fod y ddau wedi gallu cyd-dynu a'u gilydd ar hyd y fath gynifer o flynyddau.
A'r hyn sy'n rhyfedd ydyw na chollodd Mr. Robert Hughes ond rhyw ychydig iawn o'i waith drwy afiechyd yn ystod yr holl flynyddau, ac y mae yn dal i edrych yn iach a heinyf o hyd.
Yr Udgorn 19/03/1913
HIR WASANAETH.
Ddydd Sadwrn, yr 16eg o Fawrth, cwblhaodd Mr Robert Hughes, King'shead Street, 55 mlynedd o wasanaeth fel gweithiwr gyda Mr Thomas Lloyd, Tanner.Nid yn fynych y gwelir gweithiwr wedi gwasanaethu yr un meistr am gyfnod mor faith, a hyny oherwydd sefyllfa dda ei iechyd gyda chysondeb didor,
Dymunem iddo flwyddi lawer eto cyn dĂȘl ei ddydd cadw noswyl.