MARWOLAETH.

Nawn Gwener diweddaf bu farw Mr William Dobson, Kingshead Street, ar ôl hir gystudd, yn 75 mlwydd oed.

Yr oedd y trancedig yn enedigol o Beathwaite Green, Westmoreland. Daeth i'r dref hon yn ieuanc ac ymsefydlodd.

Bu yn glerc yn Eglwys St. Petr am ddeng mlynedd ar hugain, yr hon swydd a lanwodd yn ddi fwlch.

Gedy wraig a chwech o blant i alaru eu colled o'i ôl. Claddwyd ei weddillion heddyw (Mawrth) yn mynwent Denio (angladd anghyhoedd).

ODL HIRAETH.
Gyda gweddw a phlant y diweddar W.W. Dobson, fu farw Medi 24ain 1915, yn 75 mlwydd oed.

Wylo glywir heddyw ar bob llaw;
I ni prudd-der ddygodd Brenin braw -
Llwyddodd etto yn ei ingol waith -
Lloriodd henwr cadarn ar ei daith.
I "St. Petr" parodd golled fawr,
Aeth a'i gwyliedydd i'r anghofus dir;
Mwy ni welir ar ei sanctaidd lawr.

Dodwyd ei weddillion ger y Llan;
O'i holl flinderau dwys mae'n awr mewn hedd.
Bu'n llafurio'n galed ger y fan
Sy'n awr yn fan ei ddistaw fedd.
Ond, cyn hir, cawn gwrdd â'n cyfaill mâd,
'Nol yr addewid mewn disgleiriach gwlad.

IN LOVING SYMPATHY.
With the widow and children of the late Mr W. W. Dobson, who died Sept. 24th, 1915, aged 75 years.

Weep not for him whose days on earth are o'er.
In earnest prayer thy knee bend all the more.
Look up to God for help. for God is Love
Love binds all those on earth to those above.
In hours of need your wants can be supplied,
And in the hour of death a tuccour true
May then be found for you in Him who died.

Death is the doorway to eternal life
On earth to live is but a constant strife
But God hath planned that those who suffer pain
Shall soon, in heaven, a bliss eternal gain.
On Him your burden cast thy prayer e'er be -
"Nearer, my God, to Thee; nearer to Thee."

Brynhelyg.                             R.E.W.

Yr Udgorn 29/09/1915


MARWOLAETH.

Yr wythnos o'r blaen tbu farw Mr. William Dobson. King's Head Street ar ôl hir gystudd yn ei 75 mlwydd oed.

Bu yn gwasanaethu fel clochydd a chlerc yn Eglwys St Petr am gyfnod o 30 mlynedd.

Brodor o Westmorland ydoedd. a gedy weddw a chwech o blant i alaru ar ei ôl. Y mae dros 50 o'r teuIu yn awr yn gwasanaethu yn y fyddin.

Claddwyd ddydd Mawrth yn Mynwent Denio, y Parch J. Edwards (Ficer) ac amryw glerigwyr eraill yn gwasanaethu.

Yr Herald Gymraeg 05/10/1915


Funeral.

The funeral of Mr. William Dobson, Kingshead-street, verger of St. Peter's Church for over thirty years, took place last week at Denio. Canon E. T. Davies, Bangor, former vicar of Pwllheli, and the Rev. J. Edwards, the present and the Rev. J. Edwards, the present vicar, officiated.

Only relatives and friends were present. Amongst the relatives were Sergeant Augustus Dobson, who was granted special leave to attend.

The Church was represented by Dr. S. W. Griffith, Mr. W. H. Benskin. and Mr W. H. Thomas. There was a large number of wreaths.

There were present at the funeral, in addition to those already named, Messrs W. Garnett Dobson (son), John Dobson (brother), R. W. Roberts (grandson), W. W. Dobson, H. Dobson. and J. Dobson (nephews), Captain R. W. Roberts, Liverpool, Messrs E. H. Jones, Liverpool, Fred Davies. St. Helens (sons- in-law) R. Williams, T. H. Roberts, and David Williams.

Cambrian News 08/10/1915