PRIODAS.
Ddydd Mercher diweddaf yn Lerpwl, unwyd Miss Lottie Jones, Farmers Arms Efailnewydd, mewn priodas â Mr Augustus Dobson, Pwllheli.Mr Garnet Dobson, brawd y priodfab, oedd gwas y briodas, a Miss Griffith, o'r Royal Infirmary, Lerpwl, oedd y forwyn.
Yr Udgorn 28/05/1913
EFAILNEWYDD. DYRCHAFIAD AR FAES Y FRWYDR.
Llawenydd genym ddeall fod Sergeant L. A. Dobson, Farmers' Arms (a mab y diweddar Mr. W. Dobson a Mrs. Dobson, King's Head Street, Pwllheli), wedi ei ddyrchafu ar faes y frwydr yn Ffrainc i'r swydd bwysig o Sergeant-Major. Ymunodd a'r 16th Batt. R. W.F. yn mhen ychydig wedi toriad allan y rhyfel, a bu yn ymarferyd am fisoedd yn Llandudno, lle y dyrchafwyd ef yn fuan yn Lance-Corporal, ac yn mheh ychydig wedyn yn Corporal ac yn Sergeant. Gwelir oddiwrth hyn ei fod wedi ei godi o'r grisyn isaf, yr hyn sydd yn gwneud ei ddyrchafiad i'r swydd hon yn fwy o glod ac anrhydedd iddo.Y mae wedi bod mewn amryw frwydrau ffyrnig, ac hyd y gwyddom wedi bod yn hynod lwcus i dd'od allan o honynt heb ei glwyfo. Nid oes genym ond dymuno o galon bob llwydd iddo yn ei swydd newydd, nes y byddo wedi cyrhaedd gris uwch eto.
Da iawn, Gus.
Yr Udgorn 03/01/1917
ARWISGO'R ARWR.
Bu i Sergt. Major L. Augustus Dobson, Farmers' Arms, Efailnewydd, gael ei arwisgo a'r D.C.M. o flaen ei gatrawd gan y Cadfridog yn Ffrainc.Perthynai i'r fyddin Gymreig a dangosodd ddewrder dihafal mewn cyfyngder mawr.
Yr oedd yr holl swyddogion wedi eu saethu i lawr a chymerodd yntau yr arweiniad. Casglodd yr ychydig filwyr ynghyd a daliodd feddiant yn y safle. Bu i'w ymddygiad gwrol enyn ysbrydiaeth a dewrder yn y milwyr ar awr gyfyng iawn.
Yr Herald Gymraeg 25/09/1917
Pwllheli D.C.M.
Sergeant-Major Augustus Dobson, of Farmers Arms, Efailnewydd, near Pwllheli, was decorated with the D.C.M. at the front on September 8th by the Brigadier General.At the battle of Pilkom, after losing all his officers in the early stages of the attack, he took command of his company and led them forward successfully. He afterwards collected all the men he could find and did good work consolidating at the Black Line and also at Iron Cross.
His gallant conduct inspired the men.
Cambrian News 28/09/1917
Llythyrau Oddiwrth ein Milwyr.
Derbyniodd y Maer (Mr G. Cornelius Roberts) y llythyr canlynol o Ffrainc oddiwrth Sergeant-Major L. Augustus Dobson, a bydd ei gynwys yn ddiau yn ddyddorol i deuluoedd ag y mae eu plant yn ymladd yn y rhan hon o'r Armageddon.D Company, 16th R. W.F.,
Oct. 27th, 1917. B. E. F.
Dear Mr. Roberts,
Very many thanks for the Cigarettes which you so kindly sent me. I would have written to thank you sooner, but I was waiting until I had seen the Boys to give them a few it took me a few days to see them all, as we were in the trenches.
When they arrived I gave the following 40 each :—W. Barker Jones, D. J. Jones (Butcher, Sand Street), Parry, Barber, and Lance-Corporal Thomas (son of Ty Melyn, Maes).
So please accept their thanks, as well as mine. Cigarettes are always welcome in the line; the Cigarettes we get here are certainly not half as good what they have in England. Allow me to congratulate you on being re-elected Mayor again for this year, and we are all delighted to hear that you have once again received this high honour.
Well, things are rather quiet on this front where we are now quite a change from Ypres, I can assure but I don't suppose it will be much longer before we will be in the thick of it again however. Old Fritz has got something to put up elsewhere. Its good dry weather we wants now. Of course, mind you we are not blaming Lloyd George for the bad weather, like we used before the war.
I shall try and send you a small Souvenier before long.
Please remember me to Mrs Roberts and the rest of the family. All the Boys wish to be remembered to you.
Kindest regards.
Yours sincerely,
L. A. DOBSON.
Yr Udgorn 07/11/1917
GWAELEDD SWYDDOG MILWROL.
Drwg genym ddeall fod Sergeant-Major L. Augustus Dobson, King'shead Street, wedi dod drosodd o Ffrainc oherwydd gwaeledd, ac yn bresenol yn gorwedd mewn ysbytty yn Whalley, Lancashire.Dymunwn iddo gael adferiad buan i'w lawn iechyd.