SUDDO LLONG.

Derbyniodd Mr a Mrs John Williams, 29, Kingshead Street, bellebyr nos Lun yn eu hysbysu fod y llong "Victoria "wedi suddo ar ei mordaith i Cherbourg, Ffrainc. Achubwyd yr oll o'r dwylaw, ac yr oedd eu mab,Mr John Morris Williams yn un o honynt.

Ei Chadben ydoedd Mr Maurice Evan Morris, Porthmadog, ei ewythr. Nid oes sicrwydd eto pa un a'i thorpedio ynte effaith uniongyrchol yr ystorm fu'r achos o'i suddiad. Dylem fel tref a theuluoedd fod yn ddiolchgar am waredigaethau ein bechgyn druain mewn adeg mor enbydus.

Yr Udgorn 18/04/1917