YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher. Ar y fainc, Mr J. G. Jones (Cadeirydd). Mr Maurice Jones. Mr W. Anthony. Dr S. W. Griffiths. Mr G. Hughes Roberts. Mr W. W. Griffiths. Mr J. Hughes Parry.ERLYN GWERTHWR LLEFRITH.
Cyhuddwyd John Morris, 32,. Kingshead Street, Pwllheli, o werthu llefrith yn cynwys 10.8 y cant o ddwfr. Dywedodd y diffynydd na ddarfu iddo ef erioed roddi dwfr yn y llefrith ac yr oedd yn gwerthu llefrith ers 30 mlynedd.Ar ôl cael y llythyr oddiwrth yr Arolygydd, yr oedd wedi galw tyst i'r tŷ i'w weled yn godro y gwartheg ac yr oedd wedi ei anfon i Ysgol Madryn i'w ddadansoddi a chael llythyr yn dangos fod y llefrith o dan y safon. Tystiodd Richard Evans, y gwas, mai ef oedd wedi godro y gwartheg cyn anfon y sampl i Madryn.
Dirwywyd ef yn y swm o 2p 2s, yn cynwys y costau.