DIHANGFA GYFYNG.

Yr wythnos ddiweddaf cafodd Mr Hugh Williams, mab ieuengaf Mrs Williams, 22, King'shead Street, ddihangfa gyfyng rhag dyfrllyd fedd. Cafodd yr agerlong "Llandudno," i ba un y perthynai, ei thorpedio gan fad tanforol y gelyn yn Mor y Canoldir. Bu y dwylaw yn hynod ddewr a gwrol yn ngwyneb amgylchiadau bygythiol iawn, ac achubwyd yr oll o honynt oddigerth un.

Y mae creulonderau y badau tanforol hyn yn cynyddu beunydd yn eu llymder di-dosturi at y trueiniaid anffodus a syrth i'w dwylaw, ac nid yw bywydau na meddianau yn ddim yn ngolwg y bleiddiaid anynol.

Y mae gwaredigaeth y cyfaill hwn, fel eraill o'i flaen, yn ymddangos fel gwyrth.

Yr Udgorn 15/08/1917