YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd ddydd Mercher, Mr. Maurice Jones yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol Mri. G. Hughes Roberts, William Thomas, a Dr. Gwenogfryn Evans.TAFLU ALLAN.
Cyhuddai'r Arolygydd Owen, George E. Ensor, Palace-street. Nefyn, a Lamach Dobson, High-street, Nefyn, o fod yn y Sportsman Hotel yn ystod oriau anghyfreithlawn.Tystiodd yr Heddwas Jones, Nefyn, iddo alw yn y Sportsman tua 8-30 nos Sul, y 19eg cyfisol a gwelodd y ddau ddiffynydd yn y gegin gefn. Dywedasant fod ganddynt fusnes gyda'r trwyddedydd. Ymddangosai Mr. W Cradoc Davies ar ran y diffynyddion; a dywedodd mai myned i'r gwesty a ddarfu er llogi cerbyd modur ar gyfer drannoeth.
Cadarnhawyd hyn gan Mr. Lamach Dobson. Taflwyd yr achos allan.
Dywedodd y Cadeirydd fod yr heddlu i'w cyfiawnhau am ddod a'r achos ymlaen.