MARW HEN DRIGIANYDD.
Oddeutu deg o'r gloch nos Iau, wedi byr waeledd, bu farw Miss Mary Thomas, 9, North Street, merch y diweddar Mr. Henry Thomas, Cariwr, King'shead Street, a hi yn 76 mlwydd oed.Yr oedd yr ymadawedig yn un o'r cymeriadau hyny a anwylid yn fawr gan gymdeithas ar gyfrif addfwynder a di-dwylledd ei buchedd, ac yr oedd bob amser yn barod i wneud yr hyn a allai dros eraill.
Yr oedd yn Eglwyswraig egwyddorol, a charai wasanaethau yr Eglwys yn fawr.
Cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, dydd Llun yn hen fynwent Denio'.
Rhoed ei gweddillion marwol i orffwys ym medd y teulu. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Edwards, B.A., Ficer.