MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.
Dydd Mercher, ar ôl cystudd blin, bu farw Mrs Jane Thomas, priod Mr J. Thomas, Hairdresser, Sand Street, yn 48 mlwydd oed. Merch ydoedd i'r diweddar Capt. a Mrs Evans, Gegin, Abererch.Yr oedd yr ymadawedig yn wraig hoffus a boneddigaidd, ac ar gyfrif ei hysbryd tyner a'i rhodiad bucheddol yr oedd ganddi lu o gyfeillion mynwesol. Yn nghanol ei phoen a'i gofid ymostyngodd yn dawel i'r drefn ddwyfol, a ffarweliodd a'r fuchedd hon am well ac ireiddiach bywyd hwnt i'r llen.
Bu yn aelod ffyddlawn yn nghapel Penlan, ac yn Ebenezer, Abererch, am flynyddoedd lawer.
Cymerodd yr angladd (anghyhoedd) le ddydd Sadwrn yn mynwent St Cawrdaf, Abererch Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Rhydderch, ac yn y fynwent gan y Parch. D. Jones (Efrog), Ficer. Cydymdeimlwn yn ddwys a'i phriod, mam, brodyr a chwiorydd, a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth chwerw.
Yn ddistaw o swn y rhyfel,
A byd y gofidiau mawr,
Ehedodd ei hysbryd tawel
I lewyrch y bythol wawr.
Goleu oedd llwybr ei bywyd
Lewyrchai ar fryn a dol,
A gwynder cymeriad didwyll
Adawodd i ni ar ôl
Os clwyfwyd serchiadau cynes,
Mae UN all wella yn gain
Holl glwyfau a hiraeth calon,
E' ddyry wyn flodau ar ddrain. W. LLEW ELLIS