MARW CYMERIAD POBLOGAIDD.

Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl trist o gofnodi marwolaeth y gŵr hysbys a phoblogaidd Mr John Elias, priod Mrs Elizabeth Elias, North Street, yr hyn a gymerodd le foreu Gwener diweddaf, ac efe yn 57 mlwydd oed.

Bu yn wael am rai misoedd, ond ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos.

Meddai ar nodweddion cyfoethog iawn yn ei gymeriad, a cheid ynddo gymwysderau arbenig i gyflawni swyddi o bwysigrwydd uchel. Gwnaeth waith mawr ac anrhydeddus flynyddoedd yn ôl ynglyn a'r Undeb perthynol i Settmakers Carreg yr Imbyll, a bu yn ei dro yn ysgrifenydd ac yn drysorydd iddo, ac ysgrifenodd erthyglau chwyldroadol ar hawliau ac iawnderau meibion llafur i'r misolyn perthynol iddynt.

Bu hefyd yn drysorydd egniol i Glwb Darbodol Capel Seion am faith flynyddoedd ac anrhegwyd ef ganddynt am ei ffyddlondeb a'i onestrwydd diball i'r cyfryw.

Tu allan i gylch ei eglwys a'i waith y daeth i boblogrwydd cyffredinol yn y dref a'r cylch ar gyfrif ei ddaliadau gwleidyddol. Yr oedd grym a thanbeidrwydd ei natur dros egwyddorion penaf Rhyddfrydiaeth yn ei ysu, ac mewn canlyniad cafodd deimlo min gwatwareg ac atgasedd yr wrthblaid wleidyddol. Dioddefodd yn dost am ei ddatganiadau personol a chyhoeddus. Ni chafodd y Prif Weinidog well ymladdwr o'i blaid nag ef yn nyddiau cyffredin ei etholiadau cyntaf, a chwysodd mewn aml i etholiad er mwyn gweld ei eilun yn anrhydeddus ar ben y pôl.

Ni chai yr un cyfarfod politicaidd - bydded Doriaidd neu Ryddfrydig - Ionydd na byddai ganddo doraeth o gwestiynau brwd yn barod rhagllaw, a chreai ei ddynoliaeih lydan ddigrifwch heb fesur bob tro, a byddai y lle yn ferw o fonllefau o blaid neu yn erbyn ei ddelfrydau gwleidyddol. Cadwodd hwy yn ddilychwin hyd fin ei fedd, a bydd chwithdod mawr ar ei ôl yn miri a hwyl dydd lecsiwn.

Chwith meddwl fod y cymeriad gwreiddiol a thanbaid wedi distewi ac wedi cilio o gylch cynefin cymdeithas am byth. Mae dau o'i feibion yn y fyddin - Tommy yn yr Aifft, a Hughie yn Ffrainc.

Cymerodd y gladdedigaeth le (yr hon oedd i ddynion yn unig) ddydd Llun yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. R. Conway Pritchard, ac yn y fynwent gan y Parch. J Edwards, B. A.

Cydymdeimlwn yn ddwys a'i briod a'r plant yn eu profedigaeth chwerw. Yr oedd trefniadau yr angladd dan ofal Mr William Evans, Pwlldefaid.

Yr Udgorn 25/07/1917


MARW MR. JOHN ELIAS.

Yr wythnos o'r blaen bu farw Mr John Elias, North Street, yn dra sydyn.

Chwarelwr ydoedd Mr Elias wrth ei alwedigaeth ac yr oedd yn gymeriad poblogaidd iawn yn y drefn a'r cylch. Bu'n llanw amryw o swyddi yn ynglyn ag Undeb y Settsmyn. Aleddai argyhoeddiadau uchel ar gwestiynau llafur, ac yr oedd yn Rhyddfrydwr eiddgar iawn. Yr oedd yn weithiwr llafurus a gwnaeth waith mawr yn yr etholiadau i ddewis y Prif Weinidog yn y dref.

Yr oedd yn Wesleaid ffyddlon iawn, a bu yn drysorydd y gymdeithas ddarbodol am flynyddau.

Yr oedd yn 57 mlwydd oed. Mae dau o'i feibion yn ymladd yn y fyddin a gedy weddw i alaru ar ei ôl a'r rhai y cydymdeimlir yn fawr. Cymerodd yr angladd le ddydd Llun, y Parch Conway Pritchard a'r Parch J. Edwards, ficer yn gwasanaethu.

Yr Herald Gymraeg 31/07/1917