Ymosodiad.

Yr oedd Jane Murray, Llawr Gors, Pwllheli, yn cyhuddo Ann Jones. Abererch Road, o ymosod arni hefo bwced.

Dywedai y ddiffynyddes mai ceisio amddiffyn ei hun yr oedd gan fod yr achwynyddes yn mynd i'w tharo hefo carreg.

Dirwywyd y ddiffynyddes i 5s heb y costau.
 

Yr Udgorn 26/11/1913