MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Drwg genym orfod cofnodi marwolaeth Mr. Charles Smith (pysgotwr), High Street, yr hyn a gymerodd le nos Sadwrn, Mai 9fed, ac efe yn 76 mlwydd oed. Yr oedd yn gymeriad tra adnabyddus yn y dref, ac yn ddyn tawel a boneddigaidd.

Cludwyd yr hyn oedd farwol o hono ddydd Mawrth diweddaf i hen fynwent Denio. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. E. Mostyn Jones, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B. A., y Ficer.

Gedy ar ei ol amryw feibion a merch a llawer o berthynasau, a dymunwn nawdd y nef drostynt yn eu galar.
 

Yr Udgorn 20/05/1914

MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Bu Mr Charles Smith (pysgotwr), High Street, farw nos Sadwrn, Mai 9fed, ac efe yn 76 mlwydd oed.

Yr oedd yn gymeriad tra adnabyddus yn y dref, ac yn ddyn tawel a boneddigaidd. Cludwyd yr hyn oedd farw ohono ddydd Mawrth diweddaf i hen fynwent Denio. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch E. Mostyn Jones:, ac yn y fynwent gan y Parch J. Edwards, B.A.

Gedy ar ei ôl amryw o feibion a merch a llawer o berthnasau, a dymunwn nawdd y nef arnynt yn eu galar.

Herald Gymraeg 26/05/1914