PRIODAS.

Dydd Iau, yn Eglwys St. Cawrdaf, Abererch, unwyd mewn priodas Capt. Griffith Williams, 43, Caerphilly Street, East Moors, Caerdydd, a Miss Catherine Ellis, 1, High Street. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. D. Jones (Efrog), y Ficer.

Gwasanaethwyd fel gwas gan Mr Richard Jones, Tyddyn Countess, Abererch, ac fel morwyn gan Mrs Kate Williams, New Street. Yr oedd yn bresenol hefyd Miss Mary Jones, Clogwyn, Abererch.

Wedi'r uniad ymadawsant am gwmwd prydferth Beddgelert. Dymunwn iddynt bob hapusrwydd ac amddiffyn i ddiwedd y daith.

Yr Udgorn 30/05/1917


MARWOLAETH GWRAIG ADNABYDDUS.

Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Mrs. Catherine Williams (Miss Catherine Ellis gynt), priod Capt. Griffith Williams, 1, High Street, a hi yn 63 mlwydd oed.

Byr fu dyddiau ei chystudd, ond dioddefodd hwy, er bod yn drwm a chelyd, yn dawel a digwyn. Ceid yn ei chymeriad nodweddion prydferth iawn, yn blaen, diwenwyn, gorhoffedd at yr hen a'r ieuanc, ac yn llawn diwydrwydd. Yn ei pherthynas a threfydd yr oedd yn nodedig o ffyddlon, a'r Ysgrythyrau yn hoff faes ei hymchwil. Yr oedd yn selog yn holl foddianau yr eglwys yn Mhenlan, a pharhaodd i'w mynychu ya gyson hyd ddydd ei gwaeledd. Adnabyddid hi fel un pur a chymwynasgar o galon, yn llawn didwylledd at fonedd a gwreng fel eu gilydd. Bu ei llaw yn hael at yr anghenog, a'i chalon lednais yn dygyfor mewn daioni at y tlawd a'r unig. Esmwythaodd feichiau eraill, a chafodd wenau rhagluniaeth yn ad-daliad am ei hunanaberth mawr i ddydd y cauodd ei hemrynt ar fyd dioddefaint cyn rhoi llam i'r aneddle lonydd.

Bu priod, perthynas a châr yn gweini yn ddyfal arni yn ei chystudd blin. Cymerodd yr angladd cyhoeddus le yn mynwent Denio ddydd Sadwrn. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Rhydderch. Cydymdeimlwn a'i phriod a'r teulu oll yn eu galar.

Dymuna'r teulu ddiolch yn gynes am y cydymdeimlad cyffredinol ddangoswyd a hwy yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 27/06/1917