MARW AR DROTHWY BYWYD.
Prydnawn Mawrth, wedi byr waeledd, bu farw Lancelot, bachgen Mr. a Mrs. John Dobson, Lleyn Street, ac efe yn 13 mlwydd oed.Bachgenyn hynod bert a llawn o afiaeth ydoedd, a phawb yn hoff o hono.
Cymerodd ei gladdedigaeth le ddydd Sadwrn diweddaf yn mynwent Denio. Blaenorid ei angladd gan gôr plant Eglwys St Pedr, o'r hwn yr oedd yn aelod, a rhoesant flodeuglwm hardd ar ei arch. Gwasanaethwyd gan y Parch J. Edwards, Ficer.
Cydymdeimlwn a'i rieni yn eu galar.