YNADLYS PWLLHELI.
Gerbron Mri. J. G. Jones, C. H. Lloyd Edwards. Maurice Jones, W. Thomas, C. H. Lloyd, Dr. W Wynne Griffith, Dr. R. Jones Evans, W. W. Griffiths.SIARAD GORMOD.
Cyhuddai Elizabeth Ann Wood, 5, Tanrallt Terrace, Mary Lloyd, 4, Tanrallt, Terrace, Pwllheli, o wneyd ymosodiad arni.Rhoddodd ei thystiolaeth gydag hyawdledd anarferol, a chaed trafferth fawr i'w harafu er ceisio ysgrifenu ei thystiolaeth i lawr. Honai fod y ddiffynyddes wedi dweyd nad oedd ei gwr yn deilwng i fod yn filwr, a'i bod yn robio y Llywodraeth trwy dderbyn y gydnabyddiaeth o'r Swyddfa Ryfel.
Penderfynodd y fainc i daflu yr achos allan.
Gofynodd y ddiffynyddes a'i am nad oedd hi yn gallu siarad Cymraeg ac fod y gyhuddedig ddim yn gallu siarad Saesneg yr oeddynt yn ei daflu allan? Os felly rhaid iddi gyflogi cyfreithiwr yn y dyfodol i siarad drosti.
Mr. Arthen Owen (clerc): Yr ydych chwi yn siarad gormod (chwerthin).
Mrs Wood : Rhaid i mi gael cyfiawnder. Dywedodd fy mod yn robio y Llywodraeth a Mr Asquith. Rhaid mi anfon at Mr Asquith (chwerthin mawr).
Y Clerc : Neu i Arglwydd Kitchener.
Mrs Wood : Wel ie, rwy'n sicr y cymerai ef fy mhlaid (chwerthin).
Yr Herald Gymraeg 03/08/1915
Llys Ynadol Pwllheli.
Ddydd Mercher, Gorffenaf 28am. O flaen J. G Jones, Ysw. (yn y gadair), C, H. Lloyd-Edwards, Ysw., Dr. R. Jones Evans, W. Thomas, Ysw., yr Henadur Maurice Jones, Dr. O. Wynne Griffith, C. H. Lloyd, Ysw, W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, J Ysw.Cweryl Cymdogion.
Cyhuddid Mary Lloyd. Tanrallt Terrace, Pwllheli, gan Elizabeth Ann Wood, o'r un lle, o ddefnyddio iaith fygythiol tuag ati.Dywedodd y ddiffynyddes, meddai, nad oedd ei gŵr yn gymwys i fod yn perthyn i'r fyddin, ac mai ysbeilio'r Llywodraeth oedd caniatau dim at gynal ei wraig.
Barnodd y Fainc nad oedd yr achos wedi ei brofi, er mor ddawnus oedd yr achwynyddes wrth geisio rhoi ei hachos gerbron.
Gofynodd yr achwynyddes a'i am ei bod yn Saesnes a'r ddiffynyddes yn Gymraes y cafodd ei hachos ei daflu allan, a dywedodd y Clerc wrthi ei bod yn siarad gormod, ac yr anfonai ei chwyn i'r Prif Weinidog neu i Arglwydd Kitchener. (chwerthin mawr).
Yr Udgorn 04/08/1915
MARWOLAETH.
Yn blygeiniol foreu Sul, wedi gwaeledd maith a blin, bu farw Mrs. Mary Lloyd, priod Mr. John Lloyd, Tan'rallt Terrace, a hi yn 47 mlwydd oed.Dioddefodd gystudd mawr yn amyneddgar, ac ymdrechodd hyd y gallodd i adenill ei hyni cynefin mewn bywyd yn ôl. Bu mewn Sanatorium yn ymchwil am wellhad, ond trodd pob moddion posibl yn fethiant ar ei rhan.
Yr oedd yn wraig ddiwyd a gweithgar, a magodd deulu mawr yn ofalus. Cymer ef chladdedigaeth le, yr hon fydd cyhoeddus, ddydd Iau am 1-30 o'r gloch, yn mynwent newydd Denio. Gwasanaethir gan y Parch. Thomas Williams, Elms.
Cydymdemlwn a'i phriod ac a'r plant yn eu dwfn alar am dani.