YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher gerbron Mri J G Jones (Cadeirydd), Maurice Jones, W W Griffith, J Hughes Parry, a G Cornelius Roberts.

Y TAD A'I BLANT.

Cyhuddai Mr J. W. Thomas, Mr Humphrey Jones, Tanrallt Terrace, Pwllheli, o beidio anfon ei fachgen i'r ysgol.

Dywedodd y diffynydd fod ganddo bedwar o blant, a'i fod wedi colli ei wraig yn ddiweddar. Yr oedd y bachgen yn gofalu am y plant eraill oeddynt yn ieuengach. Nis gallai ef fforddio talu i ddynes.

Ychwanegodd ei fod wedi ei alw i fyned i'r fyddin yn fuan.

Gohiriwyd yr achos am dri mis.

Yr Herald Gymraeg 23/05/1916