MARWOLAETH SYDYN.

Boreu Mercher, bu farw Mrs Maggie Jones, Tanrallt Terrace, priod Mr Humphrey Jones, gyriedydd modur Dr. Wynne Griffiths, yn dra sydyn, a hi ond 32 mlwydd oed.

Yr oedd yn wraig rinweddol a chymeradwy. Cydymdeimlir a'i gweddw a'i bum plentyn yn eu profedigaeth.

Claddwyd yn Chwilog dydd Sadwrn.

Yr Herald Gymraeg 29/06/1915