ESGEULUSO ANFON PLANT I'R YSGOL.

Ymddangosodd Mr Cradoc Davies, ar ran y Pwyllgor Addysg, mewn cysylltiad a phump o achosion gohiriedig o esgeulusdra o anfon plant i'r ysgol.

Rhoddwyd tystiolaeth gan Mr J. W. Thomas, y swyddog presenoldeb. Yn achos Jane Bishop, North Street, dywedid fod y plentyn, geneth 13eg oed, wedi bod yn bresenol ddeugain o weithiau allan o gant er pan ohiriwyd yr achos.

Gan fod archeb presenoldeb wedi ei wneud yn flaenorol gorchymynodd y Fainc i anfon yr eneth i ysgol hyfforddiadol.
 

Yr Udgorn 30/04/1913