YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher gerbron Mri J. G. Jones.. Maurice Jones, G. Hughes Roberts, Dr. Gwenogfryn Evans, J. Hughes Parry a Dr. S. W. Griffiths.

LLADRATA PABELL.

Cyhuddwyd bachgen bach 13 mlwydd oed o'r enw Gordan Bishop, 18 Gaol Street, o ladrata, pabell perthynol i Mr Sydney Jones, Richmond House, West End.

Dywedodd yr Arolygydd Owen fod llawer o gwynion yn nghvlch y bachgen a phasiodd y fainc i'w anfon i ysgol hyfforddiadol.

Yr Herald Gymraeg 31/08/1915