MARWOLAETH.
Ddydd Mawrth (wythnos i heddyw), ar ôl cystudd byr, bu farw Mr Owen Owen, Llawrgors.Yr oedd oddeutu trigain mlwydd oed. Bu yn gweithio ar ffyrdd y sir am flynyddau. Claddwyd ddydd Sadwrn yn mynwent Denio, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch J. Puleston Jones, M.A.
Gedy'r ymadawedig o'i ôl ferched a meibion.