Llys Ynadol Pwllheli.

Ddydd Mercher, Gorffenaf 28am. O flaen J. G Jones, Ysw. (yn y gadair), C, H. Lloyd-Edwards, Ysw., Dr. R. Jones Evans, W. Thomas, Ysw., yr Henadur Maurice Jones, Dr. O. Wynne Griffith, C. H. Lloyd, Ysw, W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, J Ysw.

Cweryl Cymdogion.

Cyhuddid Mary Lloyd. Tanrallt Terrace, Pwllheli, gan Elizabeth Ann Wood, o'r un lle, o ddefnyddio iaith fygythiol tuag ati.

Dywedodd y ddiffynyddes, meddai, nad oedd ei gŵr yn gymwys i fod yn perthyn i'r fyddin, ac mai ysbeilio'r Llywodraeth oedd caniatau dim at gynal ei wraig.

Barnodd y Fainc nad oedd yr achos wedi ei brofi, er mor ddawnus oedd yr achwynyddes wrth geisio rhoi ei hachos gerbron.

Gofynodd yr achwynyddes a'i am ei bod yn Saesnes a'r ddiffynyddes yn Gymraes y cafodd ei hachos ei daflu allan, a dywedodd y Clerc wrthi ei bod yn siarad gormod, ac yr anfonai ei chwyn i'r Prif Weinidog neu i Arglwydd Kitchener. (chwerthin mawr).

Yr Udgorn 04/08/1915