DRIVER R. WOOD.
Mab yw Driver R. Wood i Mr a Mrs Albert Wood. Tanrallt Terrace, Pwllheli. Perthyna i'r R.F.A., ac y mae wedi bod allan yn Ffrainc er Awst 4ydd, 1914. Cymerodd ran yn y brwydrau yn Mons, Ypres, a Hill 60.Mewn llythyr i'w rieni dywed : "Uffern ar y ddaear yw hi yn y fan hon, yn gwynebu angau bob awr o'r dydd a'r nos. Noson o'r blaen yr oeddwn yn gosod i lawr wifren o'r magnelau i'r gwarchffosydd, a chredais mai hwn oedd fy niwrnod olaf ar y ddaear.
Yr oedd y bwledi a'r shells yn hofran o'n cwmpas. Yr oedd y gwyr traed yn y gwarchffosydd ac yr oeddym ninnau yn gosod y wifren uwch ben.
Yna dechreuodd y magnelwyr danio - wel yr oedd yn ddigon i wneyd i ddyn fynd o'i gof."
Yr Herald Gymraeg 07/12/1915
WEDI EI GLWYFO.
Nid oes ond newyddion trist ac anymunol yn cyrhaedd y dref yr wythnosau hyn o faes y gwaed. Yr wythnos hon eto daeth y newydd fod Private Richard Wood, North Street, wedi ei glwyfo yn drwm yn Ffrainc, a dygwyd ef drosodd i un o ysbytai y wlad hon.Y mae Private Wood wedi bod yn nghanol yr ymladdfeydd ffyrnicaf am ddwy flynedd, a bu yn ffortunus ynddynt oll ond yr ysgarmes ddiweddaf.
Dymunwn iddo gael ei adfer yn fuan i'w gynefin nerth.