Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd ddydd Mercher o flaen Mri J. G. Jones, Maurice Jones, W. Anthony, G Hughes Roberts, W. Thomas, J. Hughes Parry, W. W. Griffiths, Mr R, Jones Evans.

Cyhuddwyd Thomas Roberts, Scifftan, Pwllheli, o fod yn feddw yn Mhwllheli ar y 23ain o'r mis diweddaf gan yr Heddwas Hughes.

Gohiriwyd yr achos am fis.
 

Herald Gymraeg 09/06/1914


YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd dydd Marcher. Ar y fainc Cyrnol Lloyd Evans (Cadeirydd), Mri. Maurice Jones, Claud Lloyd Edwards, Dr. Gwenogfryn Evans, Mri. W. W. Griffiths, a C. H. Lloyd.

GWELL CARCHAR NA'R RHESTR DDU.

Cyhuddai yr Heddwas Henderson, Thomas Roberts, Sgifftan, Pwllheli, o feddwdod. Eglurai yr arolygydd fod y diffynydd i fyny am y chweched tro y flwyddyn hon.

Gofynodd y Cadeirydd iddo a wnai ymrwymo i beidio a mynychu tŷ tafarnau am dair blynedd a thrwy hyny roddi ei enw ar y rhestr ddu. Ni roddodd y diffynydd atebiad pendant.

Y Cadeirydd. Felly gwell genych fyned i'r carchar? Y Diffynydd: Ydi wir, Syr (chwerthin).

Dirwywyd ef i 2s 6c a'r costau.

Herald Gymraeg 13/10/1914


Llys yr Ynadon, Pwllheli.

Ddydd Mercher. Gorffenaf 15fed.- Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (yn y gadair) Dr. S. W. Griffith, Dr. Gwenogvryn Evans, Dr R Jones- Evans, C. H. Lloyd Edwards, Ysw.; C. H. Lloyd, Ysw.; Rupert Williams Ellis, Ysw.; J. G. Jones, Ysw., W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.

Ar y Rhestr Ddu.

Dygwyd Thomas Roberts, Scifftan. drachefn o flaen y llys ar gyhuddiad o feddwi a hefyd o wneud niwed i'r gell yng ngorsaf yr heddlu.

Yr oedd is, meddai'r Cadeirydd, wedi rhoi pob cyfle i'r diffynydd i ddiwygio ond nad oedd wedi manteisio ar y cyfle gafodd.

Dirwywyd i ugain swllt, a rhoed ef ar y rhestr ddu.

Yr Udgorn 22/07/1914