YR YNADLYS.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri Maurice Jones, C. H Lloyd Edwards, Lieut Col. Gough, William Thomas, Dr. Gwenogfryn Eyans, G. Cornelius Roberts, J G. Jones, a J. Hughes Parry.

HELYNTION Y DDIOD.

Cyhuddwyd Hugh Dobson, Upper Terrace, Pwllheli, o fod yn feddw mewn tŷ trwyddedol ar y 6ed o'r mis hwn. Dywedodd yr Heddwas Jones ei fod wedi galw sylw y trwyddedydd ato cyn iddo roddi diod iddo.

Gan ei fod yn cael ei alw i'r fyddin gohiriwyd am bythefnos.

Yr Udgorn 20/06/1917