MARW BACHGEN.
Ddydd Sul, Ebrill 14eg, wedi gwaeledd hir, bu farw Frank Ernest Dobson, bachgen Mr a Mrs Hugh Dobson, Upper Terrace, yn 14 mlwydd oed.Cafodd gystudd maith, a bu'n nychu am flynyddoedd er iddo gael y moddion goreu posibl er ei wellhad mewn iechydfa (Sanatorium). Yr oedd yn fachgen tawel a gwylaidd, ac yn hoff gan bawb.
Cymerodd y gladdedigaeth le ddydd Mercher dilynol yn hen fynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. Pierce Owen, B.A., Ciwrad.
Cydymdeimlir a'i rieni yn eu galar a'u hiraeth am dano.