Ynadlys Pwllheli.

Cynhaliwyd yr uchod dydd Mercher. Yr oedd yn bresenol - Mri. J G. Jones, Maurice Jones, Cyrnol Gough, Mri. W. Thomas, J. Hughes Parry, W. W. Griffith.

CREULONDEB GWIRFODDOL AT BLANT.

Cyhuddai y Gymdeithas er atal creulondeb at Blant, Thomas Jennings, 7 Tanrallt Terrace, Pwllheli, o esgeuluso ei dri plentyn. Ei hoedran fel y canlyn :- 8 mlwydd oed, 4 mlwydd oed, a 15 mis. Ymddangosai Mr. William George ar ran y Gymdeithas, a Mr. George Pugh Jones ar ran y diffynydd.

Eglurai Mr. George ei fod yn achos difrifol o esgeulusdra gwirfoddol a parhaol. Yr oedd yr Arolygydd ar anogaeth Dr. O. Wynne Griffiths, wedi symud y plant i'r Tlotty.

Tystiai yr Arolygydd Thomas ei fod wedi ymweled a thŷ y diffynydd ar Rhagfyr 1af. Gwelodd y ddau blentyn hynaf, sef bachgen a geneth. Nid oedd gan yr eneth fach esgidiau, ac ond ychydig o ddillad aflan am dani; yr oedd gan y bachgen esgidiau mawr i ferch am ei draed. Yr oeddynt yn aflan, a'r tŷ yn aflan iawn, y gwely yn aflan gyda hen ddillad budr arao. Nid oedd neb yn gofalu am y plant, ac yr oedd yno dan mawr heb ddim byd i ddiogelu y plant rhagddo.

Galwodd yno drachefn ar y 7fed o'r mis, ac nid oedd y diffynydd i mewn, a chyflwr pethau yn gyffelyb.

Galwodd drachefn ar yr 22ain, a'r 28ain, o'r un mis. Yr oedd y tŷ yn lanach, ond heb ddim dodrefn. Nid oedd ond ychydig iawn o ymborth yn y tŷ. Rhoddodd rybudd terfynol i'r diffynydd.

Galwodd yno drachefn ar amryw ddyddiau yn mis Ionawr, ac yr oedd y plant a'r tŷ mewn cyflwr cyffelyb. Ar Ionawr 24ain aeth yno, ac yr oedd y plant yn haner noeth, ac heb esgidiau ar y llawr llaith ar dywydd oer iawn. Dywedodd yntau nas gallai wneud rhagor.

Galwodd ei sylw at y baban yn Llanrwst, yr hwn a anfonodd i'w frawd, gan yr hwn yr oedd gwraig a phump o blant. Gwrthododd dalu at gadw y baban, a gwrthododd fyned i'w ymofyn yn ôl. Dywedai gan eu bod wedi cymeryd y baban, fod yn rhaid iddynt ei gadw. Pan alwodd ef ei sylw aeth yn herfeiddiol iawn a dywedai nad oedd yn malio, ei fod yn gwneyd ei oreu, ac y gallai ei gosbi os mynai. Yr oedd Father Fifes, wedi cael cartref i'r plant, ond pan ddeallodd fod angen talu am eu cadw gwrthododd eu hanfon ymaith, y dydd dilynol yr oedd briw mawr ar droed yr eneth, a chadach budur amdano.

Yn ateb i Mr. George P. Jones, dywedai mai nid tlodi oedd y rheswm am gyflwr y teulu, gallai y tad enill 10s y dydd os mynai, ac yr oedd ef wedi cymhell chwilio am waith iddo.

Ategid tystiolaeth yr Arolygydd gan Dr. O. Wynne Griffiths. yr hwn a ddywedai fod y plant mewn cyflwr truenus, nid oedd yr eneth fach 4 1/2 mlwydd oed, yn pwyso ond 25 1/2 pwys, yn lle 28 pwys fel y dylai.

Dywedai Mr. G. Pugh Jones, fod gwraig y diffynydd wedi marw saith mis yn ôl, gan adael gofal y plant arno. Nid oedd yn achos o esgeulusiad gwirtoddol, ond gallai fod y plant wedi eu hesgeuluso am fod y tad yn gorfod myned allan i weithio.

Anfonwyd ef i garchar am dri mis.

Yr Udgorn 07/03/1917


YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd Ynadlys Pwllheli ddydd Mercher. Yr oedd yn bresenol Mri J. G. Jones (Cadeirydd), Claude Lloyd Edwards, Cyrnol Gough, D.S.O., William Thomas, Maurice Jones, a J. Hughes Parry. 

GWRTHOD SYMUD PLANT.

Gofynodd yr Arolygydd Thomas am archeb i symud dau o blant Thomas Jennings, Pwllheli i gartrefi perthynol i'r Pabyddion. Anfonwyd y tad i garchar am dri mis am esgeuluso y plant. Yr oedd un yn wyth a'r llall yn 4 1/2 mlwydd oed.

Caniataodd y fainc y cais, a datganasant eu bwriad i wneyd archeb am i'r tad dalu 1s 6c yr un yr wythnos am eu cadw.

Dywedodd y Tad Hayden fod y swm yn warthus o isel, ac nas gallai'r nuns gadw'r plant am 1s 6c yr wythnos.

Y Clerc : Yr oeddwn yn deall, fod y cartrefi yn bafrod i dderbyn y plant am unrhyw archeb a welai y Llys yn dda i'w gwneyd.

Y Tad Hayden : Nis gallant eu oadw am ddim. Yr Arolygydd Thomas : Bu i'r Tad Fife, oedd ym Mhwllheli o flaen y Tad Hayden, roddi ar ddeall i mi fod y cartrefi yn barod i'w derbyn.

Mr Maurice Jones : A yw'r cartrefi hyn yn derbyn rhoddion o'r Llywodraeth?

Y Tad Hayden : Nis gallaf ddweyd.

Ar ôl siarad pellach gwrthododd y Llys ganiatad i symud y plant nes y ceid mwy o sicrwydd ynghylch y trerfniadau i'w symud i gartrefi.

Yr Herald Gymraeg 22/05/1917