MARWOLAETH.
Dydd Iau diweddaf bu farw Mrs. Mary Jennings, priod Mr. Thomas Jennings, North Terrace, North Street, yn 31 mlwydd oed.Cafodd ei chystuddio'n hir, a bu yn yr Ysbytty yn Nghaernarfon yn ceisio adenill ei hiechyd, ond gwelid nad oedd adferiad yn bosibl, a daeth adref.
Dioddefodd ei chyni a'i phoen yn amyneddgar, a gedy briod a thri o amddifaid bach i alaru eu colled ar ei hol.
Claddwyd hi ddydd Llun yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Tad Fifes,