Y LLYS APEL.
Cynhaliwyd yr uchod Nos Fercher. Yr oedd vn bresenol Dr. R. Jones Evans (Cadeirydd). Mri. Robert Murray, W. Parry, John Ellis (Clerc). G. F. Yale (Cynrychiolydd Milwrol), ac ymddangosodd Mr. Hugh Pritchard (cyfreithiwr) ar ran nifer o'r apelwyr.GOFALU AM Y GWENYN.
Apeliodd Mr. R. W. Thomas, 27 North Street, am esgusodiad ar y tir ei fod yn gofalu am wenyn Lleyn ac Eifionydd. Dywedodd nad oedd ond ychydig iawn o wenyn yn y dosbarth yn fyw o'r tu alian i'r rhai oedd dan ei ofal ef.Yn ateb i Mr. Yale dywedodd nad oedd angen gofalu am y gwenyn yn y gaeaf. Yr oedd ei wraig yn athrawes yn yr ysgol.
Sylwodd Mr. Yale y buasai ychydig amser i werthu y busnes gwenyn yn ddigon i gyfarfod yr achos hwn.
Esgusodwyd hyd Hydref 31 (agored).