MORWROL.

Llongyfarchwn Mr Arthur E. Jones (mab ieuengaf y diweddar Mr a Mrs J W. Jones, Tailor), 45, North Street, ar ei waith yn pasio yn anrhydeddus fel Ail Swyddog (Second Mate) yn Lerpwl yr wythnos ddiweddaf.

Y mae gobeithion disglaer o'i flaen, er ieuenged yw, a dymunwn iddo lwydd pellach i gyraedd nod uchaf ei alwedigaeth.

Yr Udgorn 16/05/1917