PRIODAS HARDD.
Fore Mercher, yng nghapel yr Annibynwyr, yng Nghriccieth, unwyd mewn priodas Mr. Owen H. Roberts, Eifl Boot Stores, Pwllheli, a Miss Lizzie Ellis, merch Mrs. Ellis a'r diweddar Mr. Thomas Ellis, 13, High Street, Pwllheli.Gwasanaethiwyd ar y priodfab gan Mr. Robert Ellis (brawd y briodferch), ac ar y briodferch gan Miss Mary Roberts (chwaer y priodfab).
Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Rhydderch, Pwllheli, a rhoddwyd y briodferch ymaith gan Mr. John Ellis, cyfrifydd trefol, Pwllheli, ei brawd hynaf.
Mwynhawyd gwledd briodasol yn LIys Caradog, Criccieth, ac yn ychwanegol at y rhai a enwvd uchod yr oedd yn bresenol Capten a Mrs Roberts, Porthmadog; Capten Jones, Criccieth; Miss Ellin Ellis, Fflint; Miss Katie Ellis, Pwllheli; Miss Helen Whitchurch, Caergybi; a Miss Roberts, Porthmadog. Aeth y par ieuainc ar felus wyliau i Lerpwl.