Ynadlys Pwllheli. Dydd Mercher.
Gerbron Mri. J. G. Jones, Maurice Jones, C. H. Lloyd Edwards, William Thomas, a J. Hughes Parry.COSBI AM BLANU TATWS.
Cyhuddai Mr. William Lewis (Arolygydd y Bwrdd Amaethyddiaeth), Owen Hughes, North Street, Pwllheli, o blanu tatws yn ei ardd heb drwydded y Bwrdd. Eglurai Mr. Lewis fod clwy y pytatws yn lledaenu yn y Sir, ac fod y Bwrdd mewn trefn i'w ddifrodi wedi neillduo rhai lleoedd fel na cheid planu ond mathau neillduol o bytatws ynddynt.Yr oedd Pwllheli yn un o'r lleoedd hyny, ac yr oedd y diffynydd wedi planu tatws a brynodd gan arall heb drwydded o gwbl i wneud hyny. Yr oedd y Bwrdd yn herwydd prinder hadyd wedi caniatau i rai blanu hadyd oeddynt wedi eu cadw eu hunain, ac yr oeddynt yn bwriadu rhoddi y caniatad hwnw y flwyddyn nesaf eto.
Dywedodd y diffynydd wrtho mai y Great Scot oedd wedi ei blanu, ond darganfyddodd ef mai yr Arran Chief a'r School Master a blanodd, ac yr oedd y rhai hyny yn dueddol iawn i'r clwyf.
Yn ateb i Mr. J. Hughes Parry dywedodd ei fod wedi egluro yr archeb a'r rhybuddion yn Gymraeg i'r diffynydd, ac wedi rhoddi pamphlet Cymraeg iddo yn egluro y mater.
Rhoddwyd dirwy o 5s.
Dywedai y Cadeirydd fod y fainc mewn cyd- ymdeimlad ag ymgais y Bwrdd i ddifodi y clwyf. Dywedodd Mr. Lloyd Edwards fod y clwyf yn y Sir ers 20 mlynedd.